Rwyf yn eithaf cyffrous ac yn nerfus ar hyn o bryd. Dechreuais i gael fy hyfforddiant i fod yn diwtor Cymraeg eleni, ar ddechrau mis Mawrth oedd y cwrs preswyl cyntaf ym Mhlas Menai, ond rwyf wedi bod yn mynychu dosbarth 5 awr ers 6 wythnos er mwyn dysgu sut i ddysgu fel petai. Ond, pe tasai digon o bobl yn cofrestru, byddaf yn dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg mewn dau ddosbarth, un yn y bore ac un gyda nos ar ôl gwyliau'r Pasg. Ni ddisgwyliwn i ddechrau tan fis Medi ond gwelodd Prifysgol Bangor angen am ddau gwrs i ddechrau cyn yr Eisteddfod yn ein hardal.
Rwyf wedi dechrau ymarfer cynllunio gwersi, a darllen trwy ffeil enfawr o adnoddau er mwyn dewis pa rai bydd yn fwyaf defnyddiol am gwrs a fydd yn para am 8 wythnos a gobeithio, bydd yn parhau ym mis Medi. Rwyf eisiau cynnwys sawl peth sydd yn berthnasol i'r Eisteddfod hefyd, er mwyn denu dysgwyr newydd i'r Maes. Felly, pan oedd fy mab yma dros y penwythnos, gofynnais iddo fo pa fath o gwestiynau byddai'n ddefnyddiol i bobl sy'n meddwl am fynd i'r Eisteddfod am y tro cyntaf.
Allwch chi ddyfalu pa gwestiwn oedd ei awgrymiad cyntaf? Gallwch, dw i'n siŵr. Dyn 38 oed ydy o, felly 'Lle mae'r babell gwrw? ' oedd ei gwestiwn cyntaf (cwestiwn od gan nad ydy o'n yfed llawer ond yn berthnasol iawn) ond mae o wedi awgrymu tudalen llawn o frawddegau defnyddiol. Ni allaf ddefnyddio pob un oherwydd cystrawen gymhleth, ond bydd rhai yn ddefnyddiol iawn.
Bydd rhaid i mi aros tan ar ôl gwyliau'r Pasg i ddarganfod os bydd 'na ddigon o bobl, ond erbyn wythnos diwethaf, roedd tri wedi cofrestru ar bob un o'r ddau gwrs yn barod.
Wednesday, 30 March 2011
Tuesday, 29 March 2011
Pawb a'i Farn Wrecsam
Ar ôl i mi dderbyn y trydydd galwad ffôn gan y BBC, cytunais i fynd i weld 'Pawb a'i Farn cael ei darlledu nos Iau yn y Theatr Stiwt, yn Rhosllannerchrugog, Rwyf yn mynd i fod yn rhan y gynulleidfa ac rwyf newydd dderbyn galwad ffôn arall i ofyn i mi a oes gennyf gwestiwn rwyf eisiau gofyn i'r panel. Rwyf wedi bod yn meddwl am y peth ers i mi dderbyn y tocyn a'r llythyr, ond mewn gwirionedd, nid oes gennyf unrhyw gwestiwn neu syniadau am ddim byd !
Ar hyn o bryd, dim ond pethau personol sy'n llenwi fy mhen, ac nid ydyn nhw yn berthnasol i raglen ar y teledu. Roeddwn i'n bwriadu mynd i Noson Ferched y Wawr sy ar yr un noson i wrando ar westai sy'n mynd i siarad am 'Bwyta'n Iach', ond mae'n amhosib fod mewn dau le ar yr un pryd, yn anffodus.
Felly, rwyf wedi penderfynu y dylwn i eistedd yng nghanol y rhes o seddi, lle na all y cyflwynydd roi'r meicroffon o dan fy nhrwyn a gofyn cwestiwn lletchwith i mi. Ond gawn ni weld pa mor llwyddiannus byddaf yn osgoi'r meicroffon y tro 'ma. Croeswch eich bysedd.

Wednesday, 2 March 2011
Newyddion Da iawn
Wel, rwyf wedi talu am y gwyliau ! Gallwn ni fynd i ffwrdd am wythnos ym mis Ebrill pan fydd llu o ofalwyr yn cymryd drosodd ein gwaith yma efo mam Alan. Dyna obaith y gweithiwr cymdeithasol beth bynnag, ac os na fydd popeth yn ei le, bydd 'na ofalwyr dros dro yn cymryd drosodd.
Felly un wythnos yn y Parc Cenedlaethol Eryri efo Al, Megan a Jade (y gath). Mi af â'r camera, blwch bach o baent, brwsys, papur a phensiliau a mapiau. Ond nid ydyn ni'n mynd i ddweud dim mwy wrth fam eto. Mae hi'n ddigon call i 'daflu sicky' fel maen nhw'n dweud yn Saesneg ac achosi trafferth ar y funud olaf. Nid arni hi mae'r bai, wrth gwrs, rhan o broblem dementia ydy hyn, felly bydd yn well i ni beidio â dweud dim byd mwy nes i ni ar fin gadael.
Mae'n anodd credu, ond o'r diwedd, rydyn ni'n mynd i ffwrdd efo'n gilydd am y tro cyntaf ers deng mlynedd am fwy na dau ddiwrnod. Cawsom doriad bach dwy flynedd yn ôl pan ddaeth fy mab i ofalu am ei nain, ond mae hi mor anodd gofalu amdani rŵan, fyddwn i byth yn gofyn iddo fo neu ei adael ar ei ben ei hun bellach.

Subscribe to:
Posts (Atom)